Wednesday 23 July 2008

Ynglŷn â'r SFO

 

Mae'r Swyddfa Twyll Difrifol yn adran annibynnol o'r llywodraeth sy'n ymchwilio i ac yn erlyn twyll difrifol neu gymhleth. Mae'n rhan o system cyfiawnder troseddol y Deyrnas Unedig.

Mae'r Swyddfa'n cael ei harwain gan Gyfarwyddwr sy'n cael ei benodi gan ac yn atebol i'r Twrnai Cyffredinol. Mae'r Twrnai Cyffredinol yn cael ei benodi gan y Prif Weinidog, ac mae'n gyfrifol i'r Senedd am:

  • y Swyddfa Twyll Difrifol
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Adran Cyfreithiwr y Trysorlys
  • Adran y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon
  • Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron

Awdurdodaeth

Mae Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn dod o fewn awdurdodaeth yr SFO.

Nid oes gan yr SFO awdurdodaeth dros yr Alban, Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel.

© The Serious Fraud Office. All Rights Reserved 2008.