Delio ag Achosion
Asesu Achosion a Gyfeirir Atom
Archwilio Cefndir
Mae asesu neu 'archwilio' er mwyn ystyried a ddylem ymchwilio i achos o dwyll honedig yn golygu archwiliad manwl o'r holl ffeithiau sy'n hysbys am yr achos a gyfeiriwyd atom. Cynhelir cyfarfodydd cyswllt rheolaidd i benderfynu pa gorff sydd fwyaf priodol i ddelio â thwyll penodol a amheuir.
Bydd y penderfyniad a ddylai achos gael ei dderbyn gennym yn cael ei wneud o fewn 1 mis ar ôl iddo gael ei gyfeirio at yr SFO, er y gellir gofyn am wybodaeth ychwanegol cyn gwneud y penderfyniad.
Mae achosion sy'n cael eu hargymell gan y tîm archwilio ar gyfer eu harchwilio'n ffurfiol yn cael eu cyflwyno i'r Cyfarwyddwr ar gyfer eu derbyn yn derfynol.
Beth sy'n digwydd i achosion sydd ddim yn cael eu derbyn gan yr SFO?
Mae ceisiadau sydd ddim yn cael eu derbyn gan yr SFO yn cael eu cyfeirio'n ôl at y corff a'u cyfeiriodd atom yn y lle cyntaf.
Bob blwyddyn mae miloedd o achosion o dwyll nad ydynt yn dod o fewn cylch gwaith yr SFO yn cael eu harchwilio gan unedau rhanbarthol yr heddlu neu unedau masnachol, a'u herlyn yn y llysoedd gan Gwasanaeth Erlyn y Goron
. Mae adrannau eraill o'r llywodraeth hefyd yn cynnal ymchwiliadau ac yn erlyn.
Y Baich Achosion
Mae'r SFO yn derbyn oddeutu 20-30 o achosion newydd bob blwyddyn.
Ar hyn o bryd mae'r swyddfa'n gysylltiedig ag oddeutu 80 o achosion y mae'n ymchwilio iddynt neu sy'n mynd trwy'r llysoedd. Disgwylir i'r baich achosion hwn gynyddu dros y blynyddoedd nesaf.