Friday 21 November 2008

Delio ag Achosion

Ffurfio Tîm Achos

Pa bryd fydd Tîm Achos yn cael ei ffurfio?

Pan fydd achos wedi'i dderbyn, bydd yn cael ei roi yng ngofal tîm aml-ddisgyblaeth sy'n cynnwys cyfreithwyr, ymchwilwyr ariannol, heddlu, staff Technoleg Gwybodaeth a staff cefnogi.

Mae'r tîm yn cael ei arwain gan reolydd achos, cyfreithiwr profiadol, sy'n gyfrifol am bob agwedd ar yr ymchwiliad ac am unrhyw erlyniad a all ddilyn.

Rôl yr heddlu yn achosion yr SFO

Mae'r heddlu'n gweithio gyda ni fel rhan o'r tîm achos. Mae twyll yn drosedd ac mae gan unedau twyll yr heddlu eu swyddogion arbenigol eu hunain. Mae cyfraniad yr heddlu at ein hymchwiliadau yn arwain at fuddion gwirioneddol, trwy gyfuno'u profiad a'u gwybodaeth leol hwy gyda'n gallu ni i ymchwilio i faterion cyfreithiol ac ariannol.

Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987 yn datgan sut y dylai'r SFO weithredu mewn ymchwiliadau gyda'r heddlu. Nid yw annibyniaeth cyfansoddiadol yr heddlu, na'u hatebolrwydd na'u strwythur gorchymyn wedi newid o ganlyniad i sefydlu'r SFO, nac wrth i swyddogion o'r heddlu weithio ar ein hachosion.

Ni all Pwerau Adran 2 gael eu defnyddio gan yr heddlu yn ôl Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987.

© The Serious Fraud Office. All Rights Reserved 2008.