Delio ag Achosion
Y Meini Prawf ar gyfer Derbyn Achosion
Y prif faen prawf y byddwn yn ei ddefnyddio wrth benderfynu a ddylid derbyn achos yw fod y twyll honedig yn ymddangos mor ddifrifol neu gymhleth fel y dylai'r ymchwiliad iddo gael ei gynnal gan y sawl sy'n gyfrifol am ei erlyn.
Nid yw'r SFO yn derbyn pob achos o dwyll honedig a gyfeirir ato, ac ni allai wneud hynny. Mae'n rhaid i adnoddau'r SFO ganolbwyntio ar dwyll difrifol neu gymhleth.
Y ffactorau a ystyrir:
- a yw gwerth y twyll honedig dros £1 miliwn?
- a oes iddo elfen ryngwladol sylweddol?
- a yw'n debygol o achosi cryn bryder ymhlith y cyhoedd?
- a yw'n achos sy'n gofyn am wybodaeth arbenigol iawn, e.e. o'r marchnadoedd arian?
- a oes angen defnyddio pwerau arbennig yr SFO, megis Adran 2 y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol?