Friday 21 November 2008

Ynglŷn â'r SFO

Creu'r SFO

Pa bryd y crëwyd yr SFO?

Dechreuodd y Swyddfa Twyll Difrifol ar ei gwaith ym mis Ebrill 1988. Mae wedi bod yn gyfrifol am ymchwilio i ac erlyn rhai o'r achosion mwyaf o dwyll yn hanes Prydain. Crëwyd yr SFO a'i phwerau gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1987 (fel y'i diwygiwyd).

Am grynodeb o'r Ddeddf, ewch i wefan Llyfrfa Ei Mawrhydi: http://www.hmso.gov.uk/acts/summary/01987038.htmExternal site link.

Adroddiad Roskill

Yr hwb i gyflwyno Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987 a chreu'r SFO oedd Adroddiad y Pwyllgor Treialon Twyll, sy'n cael ei adnabod fel 'Adroddiad Roskill' ac a gyhoeddwyd ym 1986.

Prif argymhelliad yr adroddiad oedd y dylid sefydlu corff unedig a fyddai'n gyfrifol am ddatrys, ymchwilio i ac erlyn achosion o dwyll difrifol.

Yn y Deyrnas Unedig yn ystod y 1970au a'r 1980au cynnar, roedd cryn anfodlonrwydd ymhlith y cyhoedd gyda'r drefn ar gyfer ymchwilio i ac erlyn achosion o dwyll difrifol a chymhleth.

Sefydlodd y Llywodraeth y Pwyllgor Treialon Twyll, pwyllgor ymchwilio annibynnol, ym 1983. O dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Roskill, bu'n ystyried cyflwyno dulliau mwy effeithiol o ymladd twyll trwy gyflwyno newidiadau i'r gyfraith ac i'r modd yr ymdrinnir ag achosion cyfreithiol.

© The Serious Fraud Office. All Rights Reserved 2008.