Delio ag Achosion
Riportio Twyll i'r SFO
Canllawiau i Ymgeiswyr Preifat
Pan fydd achos yn cael ei gyfeirio atom, ni fyddwn ond yn dwyn achos os yw'n ymddangos, a hynny ar seiliau rhesymol, ei fod yn achos o dwyll difrifol neu gymhleth. Y prif faen prawf ar gyfer penderfynu a ddylem dderbyn achos yw fod y twyll honedig yn ddigon difrifol fel bod angen i'r ymchwiliad gael ei gyfarwyddo gan y sawl sy'n gyfrifol am yr erlyniad.
Os ydych yn dymuno rhoi gwybod i'r SFO am dwyll, dylech edrych ar ein achosion yn gyntaf.
Fe welwch fod y Swyddfa Twyll Difrifol yn ystyried, ymhlith ffactorau eraill, faint o arian sydd ynghlwm â'r twyll. Fel arfer, nid yw'r SFO yn ymchwilio nac yn erlyn mewn achosion lle mae'r swm sy'n gysylltiedig â'r twyll dan sylw yn llai na £1 miliwn.
Os ydych yn dymuno rhoi gwybod am achos troseddol o dwyll nad yw'n cwrdd â meini prawf yr SFO, dylech ddod â'r mater i sylw'ch heddlu lleol neu'r heddlu twyll rhanbarthol. Mae gwybodaeth am Uned Twyll Heddlu Llundain ar gael oddi wrth www.met.police.uk/fraudalert/index.htm
a'r www.met.police.uk/so/
.
Os ydych yn gysylltiedig ag anghydfod neu achos lle nad oes trosedd wedi'i chyflawni, efallai yr hoffech gael cyngor cyfreithiol annibynnol.
Os ydych wedi derbyn llythyr, ffacs neu e-bost amheus sy'n dod o Orllewin Affrica neu unrhyw le arall, ac yn dymuno hysbysu'r awdurdodau priodol, yna dylech ei ddangos i'ch heddlu lleol gan nodi ei fod i sylw'r uned twyll. PEIDIWCH AG ATEB Y LLYTHYR EI HUN. Mae rhagor o wybodaeth am y mathau hyn o dwyll ar gael ar NCIS website
.
Rhoi Gwybod i'r SFO am Dwyll
Er gwybodaeth: Os ydych yn rhoi gwybod i'r SFO am dwyll, bydd y mater yn cael ei ystyried yn ofalus gan aelodau Is-adran Polisi'r SFO. Byddwch yn debygol o dderbyn ateb o fewn 10 niwrnod gwaith.