Delio ag Achosion
Ymchwiliadau ac Erlyniadau
Y broses ymchwilio
Mae datrys twyll difrifol yn golygu pori trwy nifer enfawr o ddogfennau sy'n aml wedi eu gadael ar ffurf ddryslyd a thameidiog yn fwriadol. Mae'n rhaid i'r dogfennau hyn gael eu harchwilio gan bobl sy'n meddu ar wahanol arbenigeddau (e.e. yr heddlu, cyfrifwyr, cyfreithwyr, broceriaid stoc ac arbenigwyr cyfrifiadurol) er mwyn canfod a oes troseddau wedi eu cyflawni, ac os oes, i drefnu'r dystiolaeth ar ffurf gryno a dealladwy i'w chyflwyno i'r llys.
Mae cyfarfodydd achos sy'n cynnwys pob aelod o'r tîm achos yn cael eu cynnal yn gyson trwy gydol yr ymchwiliad. Maent yn ddull o gytuno ar ffyrdd i fwrw ymlaen â'r achos, ac maent yn cynnwys yr holl arbenigwyr sy'n rhan o'r tîm, gan gynnwys cyfreithiwr erlyn annibynnol, sydd fel rheol wedi bod yn rhan o'r broses ers y camau cynnar. Ar ddiwedd pob treial cynhelir cyfarfod terfynol i adolygu'r achos ac i ddysgu o brofiad yr achos.
Penderfynu erlyn ai peidio
Ar ôl ymchwilio i'r achos, fe fyddwn, cyn dwyn unrhyw achos troseddol, yn ystyried a oes gobaith realistig o sicrhau euogfarn ar sail y dystiolaeth yn erbyn pob diffynnydd posibl ac a yw lles y cyhoedd yn gofyn am erlyniad. Rydym yn dilyn yr egwyddorion a amlinellir yn y Côd i Erlynwyr y Goron, sydd hefyd yn sail i benderfyniadau Gwasanaeth Erlyn i Goron i erlyn ai peidio.