Monday 6 October 2008

Delio ag Achosion

Pwerau Adran 2

Beth yw Hysbysiad Adran 2?

O dan Adran 2 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987, mae gan staff a awdurdodir gan y Cyfarwyddwr bwerau i fynnu bod person yn ateb cwestiynau, darparu gwybodaeth neu ddatgelu dogfennau i helpu ymchwiliad. Rhoddir rhybudd ysgrifenedig pan fyddwn yn gweithredu'r pwerau hyn. Mewn achosion brys, gallwn fynnu cydymffurfiad ar unwaith ag unrhyw rybudd a gyhoeddir.

Mae'n bwysig bod ymchwilwyr yr SFO yn cael gafael ar wybodaeth yn gyflym ac yn effeithlon. Mae hyn yn lleihau'r amser y mae'r ymchwiliad yn ei gymryd, ac yn y pen draw mae'n golygu bod y troseddwr yn cael ei ddwyn i dreial yn gyflymach.

Pwy sy'n derbyn Hysbysiadau Adran 2?

Mae llawer o hysbysiadau Adran 2 yn cael eu cyflwyno i fanciau, sefydliadau ariannol, cyfrifwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a all, trwy wneud eu gwaith yn y ffordd arferol, fod yn meddu ar wybodaeth neu ddogfennau sy'n berthnasol i dwyll posibl.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan y sefydliadau a'r unigolion hyn ddyletswydd i gadw gwybodaeth am eu cleientiaid'n gyfrinachol. Mae llawer yn barod i helpu ond yn methu â gwneud hynny oherwydd eu dyletswydd i gadw gwybodaeth yn gyfrinachol. Mae hysbysiad Adran 2 yn golygu ei bod yn ofynnol arnynt yn ôl y gyfraith i ddatgelu gwybodaeth a dogfennau.

Pa bryd y gellir defnyddio'r pwerau hyn?

Dim ond i ddibenion ymchwiliad i drosedd bosibl y caniateir defnyddio pwerau Adran 2, a dim ond pan fydd yn ymddangos i'r Cyfarwyddwr bod y drosedd yn cynnwys twyll difrifol neu gymhleth, a lle mae rheswm digonol i wneud hynny er mwyn ymchwilio i fusnes, neu unrhyw agwedd ar fusnes unrhyw berson.

Beth yw'r cyfyngiadau?

Gall person wrthod ateb cwestiynau neu ddatgelu gwybodaeth neu ddogfennau os oes ganddo ef/hi esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny.

Ni chaniateir i'r atebion y bydd person yn eu rhoi i gwestiynau sy'n rhaid eu hateb o dan Adran 2 gael eu defnyddio mewn tystiolaeth yn ei erbyn yn ei dreial oni bai fod y treial hwnnw yn ymwneud â throsedd o ddarparu gwybodaeth gamarweiniol yn ystod y cyfweliad Adran 2 ei hun.

© The Serious Fraud Office. All Rights Reserved 2008.