Ynglŷn â'r SFO
Strwythur Sefydliadol

Cliciwch yma i weld fersiwn mwy
Adrannau Gweithredol
Ceir pedair adran ymchwilio ac erlyn, bob un ohonynt dan arweiniad Cyfarwyddwr Cynorthwyol. Mae pob adran yn cynnwys nifer o dimau achos aml-ddisgyblaeth sy'n cynnwys cyfreithwyr, ymchwilwyr ariannol a staff cefnogi.
Mae pob adran weithredol yn delio ag achosion o dwyll a gyflawnwyd yn y rhan o'r wlad sydd o fewn awdurdodaeth yr SFO. Fodd bynnag, gan fod cyfran sylweddol o'r achosion yn tarddu o Lundain, mae'r rhain yn cael eu rhannu rhwng yr adrannau.
Cefnogaeth Cyfrifyddiaeth a Chyfrifiadureg Fforensig
Un o'r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol yw Pennaeth yr Adran Cyfrifyddiaeth, sy'n uwch gyfrifydd siartredig. Mae cefnogaeth cyfrifyddiaeth yn cael ei dyrannu o adnoddau canolog yn ôl y galw. Gall hyn gynnwys cyflogi cyfrifwyr arbenigol allanol. Mae uned cyfrifiadureg fforensig yn gyfrifol am atafaelu, prosesu a dadansoddi pob tystiolaeth ar ffurf electronig. Mae'r Uned hon yn rhan o Fforwm Troseddau Rhyngrwyd y Deyrnas Unedig, Gweithgor Uwch Dechnoleg yr G8, a Grŵp Cyfrifiadureg Fforensig y Deyrnas Unedig. Mae dylunydd graffeg yn cynorthwyo timau achos a'r cyfreithwyr i baratoi cyflwyniadau ar gyfer gwrandawiadau llys.
Polisi
Mae'r Adran Polisi yn monitro deddfwriaeth ac yn darparu cyngor cyfreithiol i'r Cyfarwyddwr. Y mae hefyd yn darparu gwasanaeth llyfrgell ac ymchwil i ymchwilwyr a chyfreithwyr achos.
Mae gan yr Adran Uned Cyd-gymorth Cyfreithiol sy'n delio â cheisiadau am gymorth chwilio gan awdurdodau tramor, mewn achosion lle mae'r twyll honedig wedi digwydd mewn gwlad dramor ond bod tystiolaeth ar gael yn Lloegr, Cymru neu Ogledd Iwerddon.
Ffôn: 020 7239 7380
Ffacs: 020 7833 5442
E-bost: mla@sfo.gsi.gov.uk
Adran Cyllid a Staff
Mae'r adran hon yn gyfrifol am:
- Gynllunio a rheolaeth ariannol, a chyfrifon rheolaeth.
Ffôn: 020 7239 7025
Ffacs: 020 7833 5496 - Systemau gwybodaeth
- Cynllunio Busnes
- Recriwtio a hyfforddi
- Cyfleusterau, gweinyddu cyffredinol, diogeliad a chynnal a chadw
- Cydgasglu a rheoli arddangosion, cofnodion a thystiolaeth a gasglwyd yn ystod ymchwiliadau ac a ddefnyddir mewn treialon.
Swyddfa'r Cyfarwyddwr
Mae Swyddfa Breifat y Cyfarwyddwr yn darparu cefnogaeth weinyddol a gweithredol i'r Cyfarwyddwr ac i'r pennaeth cyfrifyddiaeth. Mae'n gyfrifol am gysylltiadau seneddol ac am drefnu ymweliadau gan awdurdodau barnwrol ac awdurdodau gorfodi cyfraith droseddol o wledydd tramor.
Ffôn: 020 7239 7272
Ffacs: 020 7833 1689
E-bost: private.office@sfo.gsi.gov.uk
Swyddfa'r Wasg a Gwybodaeth
Swyddfa'r wasg sy'n gyfrifol am gysylltiadau gyda'r cyfryngau ac am drin ymholiadau'r cyhoedd. Mae'n cynhyrchu cyhoeddiadau allanol a rhywfaint o wybodaeth fewnol, ac yn cynnal gwefan yr SFO a'r system olrhain achosion.
Ffôn: 020 7239 7000
Ffacs: 020 7837 1173
E-bost: press.office@sfo.gsi.gov.uk