Delio ag Achosion
Treialon
Hyd Treialon
Yn aml, mae treialon twyll sy'n cael eu hymladd yn parhau'n hwy na threialon troseddol eraill. Mae hyn oherwydd:
- bod y trafodion perthnasol yn aml yn rhai cymhleth ac yn digwydd dros amser, gan gynhyrchu llawer iawn o waith papur;
- fel rheol bydd mwy nag un diffynnydd, ac felly mwy nag un cyfreithiwr dros yr amddiffyniad;
- gan amlaf, bydd llawer o dystion yn cael eu galw, ac yn aml byddant yn gorfod teithio o dramor;
- mae'r amserlen yn dibynnu ar a yw barnwr cymwys gyda phrofiad o dreialon twyll cymhleth ar gael.
Amserlen treialon
Adran yr Arglwydd Ganghellor
a gweinyddwyr y llys sydd yn trefnu treialon twyll ac yn darparu ystafelloedd addas yn y llys
Defnydd o dechnoleg yn y llys
Rydym yn hysbysu'r llysoedd o'r achosion sydd yn yr arfaeth, ac o unrhyw ofynion arbennig, megis yr angen am unrhyw offer arbennig yn y llys. Ambell dro, bydd tyst mewn gwlad arall yn cyflwyno tystiolaeth i lys yn y DU, trwy ymddangos yn fyw ar sgrîn trwy gyfrwng cysylltiad lloeren.