Monday 6 October 2008

Delio ag Achosion

Canllawiau i Dystion yn Nhreialon yr SFO

Mae'r esboniadau isod wedi eu cynllunio i egluro'r drefn sy'n gysylltiedig â bod yn dyst mewn llys, ac i ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae tyst yn debygol o'u gofyn.

Mae'r Swyddfa Twyll Difrifol wedi ymrwymo i sicrhau bod y tystion yn ei achosion yn derbyn cymaint o wybodaeth a chymorth â phosibl. Mae'r Cyfarwyddwr yn ddiolchgar dros ben i bob un ohonoch sy'n fodlon rhoi tystiolaeth yn achosion yr SFO. Mae bod yn dyst yn swyddogaeth gyhoeddus hollbwysig.

Fel tyst mewn achos a ddygir gan yr SFO, byddwch wedi derbyn enw Ysgrifennydd yr Achos yn yr SFO. Cofiwch gysylltu ag ef neu hi os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Os ydych wedi colli enw Ysgrifennydd yr Achos, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cyffredinol i'w gofyn, ffoniwch rif Ymholiadau Cyhoeddus yr SFO, 020 7239 7190, neu anfonwch neges e-bost i public.enquires@sfo.gsi.gov.uk.

Eich tystiolaeth

Tyst yw person sy'n rhoi tystiolaeth i'r llys yn ystod treial.

Mae achosion SFO yn achosion troseddol, a'r person ar ei brawf yw'r "Diffynnydd". Enw'r diffynnydd yw enw'r achos:

' Regina - v - JOHN BROWN '

Bydd eich tystiolaeth yn cynnwys ffeithiau - pethau yr ydych chi yn gwybod amdanynt neu wedi eu gweld neu glywed neu eu profi. Mae'n rhaid i'r llys glywed gan bobl gyda gwybodaeth bersonol am ffeithiau'r achos, er mwyn ei alluogi i benderfynu a yw'r diffynnydd yn euog neu beidio o'r troseddau y mae wedi ei gyhuddo ohonynt.

Mae'n debyg y byddwch eisoes wedi ysgrifennu a llofnodi Datganiad Tyst ar gyfer ymchwilwyr yr SFO. Mae'n bosibl hefyd y byddwch wedi darparu dogfennau neu gopïau o'ch dogfennau sy'n berthnasol i'r achos (gelwir y rhain yn Arddangosion).

Gall eich tystiolaeth gael ei chyflwyno ar lafar, yn y llys agored gerbron y barnwr, y rheithgor, y diffynnydd a'r cyfreithwyr; neu

Bydd eich Datganiad Tyst a'ch Arddangosion yn cael eu darllen i'r llys (heb yr angen i chi fod yn bresennol).

Mae'n bosibl y byddwch eisoes wedi derbyn llythyr gan Ysgrifennydd yr Achos yn dweud wrthych ymhle a pha bryd y bydd yr achos yn mynd gerbron y llys.

Os nad ydych yn siŵr a fydd angen i chi fynd i'r llys ai peidio - cysylltwch ag Ysgrifennydd yr Achos.

Os nad ydych wedi llofnodi Datganiad Tyst eto, ond mae ymchwilwyr yr SFO wedi'ch cyfweld neu wedi cysylltu â chi beth amser yn ôl, cysylltwch â'r ymchwilwyr. Mae'n bosibl na fydd angen eich tystiolaeth erbyn hyn.

Paratoi i ddod i'r llys

  • Efallai eich bod wedi gwneud eich datganiad tyst beth amser yn ôl, ac fe allai fod yn ymwneud â materion cymhleth. Os ydych yn teimlo bod arnoch angen atgoffa'ch hun o'i gynnwys trwy weld copi, cysylltwch ag Ysgrifennydd yr Achos.
  • Mae'n bwysig nad ydych yn ceisio cofio eich tystiolaeth trwy siarad amdano gyda thystion eraill. Os ydych yn adnabod tystion eraill eisoes, byddwch yn ofalus nad ydych yn trafod yr achos gyda hwy. Dan rai amgylchiadau gall hyn fod yn drosedd.
  • Os oes rhywun yn eich holi, neu wedi eich holi, ynghylch eich tystiolaeth, cysylltwch ag Ysgrifennydd yr Achos ar unwaith. Mewn nifer fach iawn o achosion, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi wneud datganiad, cyn y treial, i'r cyfreithwyr sy'n cynrychioli'r Diffynnydd.
  • Os ydych yn bryderus ynglŷn â chyfarfod y Diffynnydd, ei berthnasau, neu unrhyw berson arall, tra byddwch yn y llys, dylech ddweud hynny wrth Ysgrifennydd yr Achos.
  • Os nad yw eich Saesneg yn rhugl, ac os hoffech gael cyfieithydd, cysylltwch ag Ysgrifennydd yr Achos.
  • Os oes gennych anabledd neu anghenion arbennig, cysylltwch ag Ysgrifennydd yr Achos.
  • Os nad ydych wedi bod mewn llys o'r blaen, ac os hoffech ymweld â'r adeilad ymlaen llaw, cysylltwch ag Ysgrifennydd yr Achos. Mae llawer o Lysoedd y Goron lleol yn cynnal dyddiau agored a theithiau o'u hamgylch gyda thywysydd, a byddai croeso i chi ymuno ag un o'r rhain.
  • Bydd eich costau teithio yn cael eu had-dalu ar ôl i chi roi eich tystiolaeth.
  • Os byddwch yn teithio o dramor, trafodwch eich anghenion gydag Ysgrifennydd yr Achos. Efallai y gofynnir i chi ddod â'r holl arddangosion gwreiddiol gyda chi i'r llys. Caniateir i chi fynd â'r rhain i ystafell y llys gyda chi, ond NI FYDDWCH yn cael mynd â'ch Datganiad Tyst gyda chi. PEIDIWCH â dod ag unrhyw beth arall gyda chi i'r llys oni ofynnir i chi wneud hynny; ond os oes gennych unrhyw ddogfennau eraill a allai fod yn berthnasol i'r achos, rhowch wybod i Ysgrifennydd yr Achos.

Cyrraedd y llys

  • Pan fyddwch yn cyrraedd Llys y Goron, edrychwch ar y rhestr achosion, a fydd wedi ei harddangos ar Hysbysfwrdd yn y cyntedd.
  • Bydd yr achos wedi'i restru o dan enw'r diffynnydd fel “R v (enw'r diffynnydd)”, gyda rhif y llys lle cynhelir yr achos. Neu, gallwch ofyn i aelod o staff y llys am gymorth.
  • Dylech aros wrth neu gerllaw drws y llys perthnasol. Bydd enw'r achos ar y wal ger y drws. Bydd Ysgrifennydd yr Achos yn eich disgwyl, a bydd ef/hi yn ei gyflwyno/chyflwyno ei hun i chi.

Peidiwch â mynd i mewn i'r llys tan i chi gael eich galw. Fel rheol, ni chaniateir i dystion wylio unrhyw ran o'r treial, tan iddynt orffen cyflwyno'u tystiolaeth.

Peidiwch â thrafod yr achos ag unrhyw dystion eraill sy'n aros

Gwneir pob ymdrech i beidio â'ch cadw i aros yn hir yn y llys cyn eich bod yn cael eich galw i roi'ch tystiolaeth. Fodd bynnag, mae oedi'n gallu digwydd, a gall hyn fod yn ganlyniad i nifer o bethau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth. Ein nod yw sicrhau nad oes unrhyw dyst yn gorfod aros mwy na dwy awr. Byddwn yn gwneud ein gorau i gadw at hyn, a byddwn yn sicrhau bod ysgrifennydd yr achos yn eich hysbysu o'r rhesymau dros yr oedi a faint y byddwch yn debygol o orfod aros.

Mewn llawer o lysoedd, darperir canolfan gofal Tystion, lle bydd gwirfoddolwyr wrth law i wneud eich cyfnod aros yn fwy dymunol.

Trefn y llys

Pan fydd y llys yn barod, bydd eich enw yn cael ei alw gan y tywysydd, a bydd ef neu hi yn dangos i chi ble i sefyll.

Gofynnir i chi gadarnhau eich enw llawn a'ch cyfeiriad. Os nad ydych yn dymuno i'ch cyfeiriad gael ei gyhoeddi yn y llys agored, trafodwch eich rhesymau gydag Ysgrifennydd yr Achos cyn mynd i'r llys.

Gofynnir i chi gymryd llw neu gadarnhau bod y dystiolaeth y byddwch yn ei rhoi yn gywir.

Mae'n ofynnol i Gristnogion, er enghraifft, dyngu llw ar y Testament Newydd. Fodd bynnag, mae gan bob llys drefniadau ar gyfer sicrhau bod tystion o bob ffydd yn gallu tyngu llw sy'n briodol i'w cred. Neu, os yw'n well gennych, caniateir i chi gadarnhau yn hytrach na thyngu llw. Os yw hyn yn eich poeni, dylech roi gwybod i Ysgrifennydd yr Achos neu dywysydd y llys.

Rhoi tystiolaeth

Ar ôl i chi dyngu llw:

  • Yn gyntaf bydd y cyfreithiwr sy'n erlyn ar ran yr SFO yn gofyn cwestiynau i chi. Adwaenir hwn fel y "prifholiad".
  • Wedyn mae'n debyg y byddwch yn cael eich croesholi gan gyfreithiwr yr amddiffyniad. Peidiwch â phoeni os na fydd yr amddiffyniad yn gofyn cwestiynau i chi - yr unig beth y mae hyn yn ei olygu yw nad ydynt yn amau unrhyw ran o'ch tystiolaeth. Yn olaf, mae'n bosibl y cewch eich holi eto gan yr erlyniad.
  • Mae'n bosibl hefyd y bydd y Barnwr, ar unrhyw adeg, yn gofyn cwestiynau i chi. Dylech ei alw ef neu hi yn "Eich Anrhydedd", neu os yw ef neu hi yn Farnwr yr Uchel Lys dylid ei g/alw'n "Fy Arglwydd" neu "Fy Arglwyddes". Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa ffurf fydd yn briodol.
  • Cymerwch eich amser a siaradwch yn eglur, fel bod y Barnwr, y rheithgor a'r cwnsleriaid yn gallu eich clywed. Os nad ydych yn deall y cwestiwn yn iawn, peidiwch â bod ofn dweud hynny. Gofynnwch i'r sawl sy'n eich holi ailadrodd y cwestiwn.

Mae pawb sy'n gysylltiedig â'r achos, gan gynnwys y cwnsleriaid a'r Barnwr yn awyddus i sicrhau bod y tystion yn cael pob cyfle i gyflwyno eu tystiolaeth yn llawn ac yn deg.

Os byddwch yn cael unrhyw anhawster wrth roi tystiolaeth, er enghraifft os byddwch yn teimlo'n sâl ac angen gadael y llys, neu os hoffech gael cadair neu ddiod o ddŵr, dylech ofyn i'r Barnwr.

Os ydych chi am gywiro unrhyw beth yr ydych wedi ei ddweud yn gynharach, neu os ydych yn credu bod angen amser arnoch i gyfeirio at unrhyw ddogfennau, cyn ateb cwestiwn, peidiwch â bod ofn hysbysu'r Barnwr.

Os bydd toriad yn ystod eich tystiolaeth (e.e. ar gyfer cinio), bydd y Barnwr yn eich rhybuddio i beidio â siarad ag unrhyw un am yr achos yn ystod y toriad. Bydd rhaid i chi fwyta'ch cinio ar eich pen eich hun.

Ar ôl rhoi tystiolaeth

Os hoffech aros i wrando ar weddill yr achos ar ôl rhoi eich tystiolaeth, dylech ofyn i Ysgrifennydd yr Achos a oes unrhyw reswm pam na fyddai hynny'n briodol. Er enghraifft, os oes posibilrwydd y gallech gael eich galw eto yn ddiweddarach yn yr achos, gofynnir i chi adael y llys ar unwaith ar ôl rhoi'ch tystiolaeth.

Ar ôl i chi roi'ch tystiolaeth, byddwch yn ofalus i sicrhau nad ydych yn trafod yr achos gydag unrhyw dyst sydd heb gael ei alw i roi tystiolaeth.

Bydd Ysgrifennydd yr Achos yn rhoi ffurflen Hawlio Treuliau Tyst i chi. Bydd gennych hawl i ad-daliad o unrhyw gostau teithio, incwm a gollwyd, neu unrhyw dreuliau eraill sydd wedi codi o ganlyniad i'ch ymddangosiad yn y llys. Bydd y ffurflen yn egluro beth y gallwch ei hawlio. Byddai'n help pe baech yn sicrhau ac yn cadw derbynebau ar gyfer unrhyw dreuliau. Dylech dderbyn taliad am eich hawliad o fewn 14 diwrnod.

Mae'r Swyddfa Twyll Difrifol yn ddiolchgar i chi am eich amser a'ch trafferth wrth fynychu'r llys. Mae treialon teg ac agored yn gonglfaen ein system cyfiawnder troseddol. Mae eich cyfraniad at y broses, fel tyst, yn hanfodol. Os oes unrhyw beth ynglŷn â'r drefn sy'n eich poeni neu nad ydych yn ei ddeall, mae croeso i chi gysylltu â ni.

© The Serious Fraud Office. All Rights Reserved 2008.